Cofnodion - Y Pwyllgor Busnes


Lleoliad: Ar-lein

Dyddiad: Dydd Mawrth, 16 Ebrill 2024

Amser: 09.01 - 09.20
 


Preifat

------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Pwyllgor:

Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd)

Heledd Fychan AS

Jane Hutt AS

Russell George AS

Staff y Pwyllgor:

Graeme Francis (Clerc)

Yan Thomas (Dirprwy Glerc)

Eraill yn bresennol

Jane Dodds AS

David Rees AS, Y Dirprwy Lywydd

Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd

Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd

Bethan Davies, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau

Julian Luke, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth

Helen Carey, Llywodraeth Cymru

 

<AI1>

1       Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Croesawodd y Llywydd yr aelodau i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Lesley Griffiths a Darren Millar. Roedd Jane Hutt a Russell George yn bresennol yn y cyfarfod fel dirprwyon.

</AI1>

<AI2>

2       Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.

</AI2>

<AI3>

3       Trefn Busnes

</AI3>

<AI4>

3.1   Busnes yr wythnos hon

Dydd Mawrth

 

Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau a ganlyn:

 

 

Ar ôl i gadeiryddion y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ymddiswyddo wedi iddynt gael eu penodi i rolau Gweinidogol, cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylai cadeiryddion y pwyllgorau hynny barhau i gael eu dyrannu i grŵp Llafur. Cytunodd y Pwyllgor Busnes y byddai enwebiadau'n cael eu gwahodd ar ôl y Cwestiynau i'r Prif Weinidog heddiw, gyda chanlyniad unrhyw bleidleisiau sydd eu hangen yn cael eu cyhoeddi cyn y Cyfnod Pleidleisio.

 

 

Dydd Mercher

 

Rhoddodd y Llywydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am yr ychwanegiadau a ganlyn:

 

·         Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol (45 munud)

·         Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd (45 munud)

·         Cynnig i ethol Aelod i bwyllgor (5 munud)

·         Cynnig i benodi Aelod i Gomisiwn y Senedd (5 munud)

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gyflwyno cynnig i benodi Jane Hutt fel aelod o’r Pwyllgor Busnes yn lle Lesley Griffiths.

 

Yn dilyn ei ymddiswyddiad, cadarnhaodd y Pwyllgor Busnes y dylid gwahodd y grŵp Llafur i gynnig Aelod yn lle Ken Skates ar Gomisiwn y Senedd ac i gynnig gael ei gyflwyno i'w ystyried ddydd Mercher.

 

Gwnaeth y Llywydd atgoffa Rheolwyr Busnes am yr amseriadau ar gyfer cyfraniadau siarad yn ystod dadleuon 30 munud y gwrthbleidiau sydd wedi’u trefnu ar gyfer dydd Mercher.

 

·         Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.

·         Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.10pm

</AI4>

<AI5>

3.2   Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am yr ychwanegiadau a ganlyn i amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf:

 

Dydd Mawrth 23 Ebrill 2024

 

·         Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol (45 munud)

·         Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Creu cenhedlaeth ddi-fwg a mynd i'r afael â fepio ymhlith pobl ifanc (30 munud)

·         Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg: Blaenoriaethau economaidd (30 munud)

·         Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth: Blaenoriaethau trafnidiaeth (30 munud)

·         Rheoliadau Defnydd Mandadol o Deledu Cylch Cyfyng mewn Lladd-dai (Cymru) 2024 (15 munud) - gohiriwyd

·         Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd Amrywiol) (Diwygio) (Cymru) 2023 (15 munud) - gohiriwyd

 

Dydd Mercher 24 Ebrill 2024

 

·         Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip (45 munud)

·         Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad (45 munud)

 

Dydd Mercher 1 Mai 2024

 

·         Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg Weinidog yr Economi (45 munud)

·         Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (45 munud)

 

 

</AI5>

<AI6>

3.3   Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cytunwyd ar yr newidiadau canlynol i amserlen Busnes y Senedd am y tair wythnos nesaf:   

 

Dydd Mercher 24 Ebrill 2024 -

 

Dydd Mercher 8 Mai 2024 –

·         Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol: Sut y mae'n rhaid i ni i gyd chwarae ein rhan: dull iechyd y cyhoedd o atal yr epidemig trais ar sail rhywedd (60 munud)

·         Dadl ar Ddeiseb P-06-1392: Diwygio Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru 2021 (30 munud)

 

</AI6>

<AI7>

3.4   Cynigion deddfwriaethol yr Aelodau: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl

Trafododd y Pwyllgor Busnes y cynigion arfaethedig ar gyfer dadl a chytunwyd i amserlennu’r cynnig canlynol i’w drafod ar 24 Ebrill:

Janet Finch-Saunders

NNDM8504 

Cynnig bod y Senedd: 

1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil a fyddai’n gwneud darpariaethau ar gyfer targedau i atgyfnerthu diogeledd bwyd yng Nghymru.   

2. Yn nodi mai diben y Bil fyddai creu dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i bennu targedau i wella diogeledd bwyd yng Nghymru.   

 

</AI7>

<AI8>

3.5   Amserlen ar gyfer Cwestiynau Llafar

Nododd y Pwyllgor Busnes yr amserlen newydd ar gyfer cwestiynau llafar.

Ymgynghorodd y Llywydd â'r Rheolwyr Busnes ynghylch a ddylid galw ar lefarwyr i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Darpar Gwnsler Cyffredinol gan ystyried cyfrifoldebau newydd y gweinidogion. Yng ngoleuni'r safbwyntiau a fynegwyd, nododd y Llywydd y byddai'n parhau i alw ar lefarwyr i ofyn cwestiynau heb rybudd ac i barhau i adolygu'r trefniadau.

 

</AI8>

<AI9>

4       Deddfwriaeth

</AI9>

<AI10>

4.1   Diweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol

Cafodd y Pwyllgor Busnes y wybodaeth ddiweddaraf ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol cyfredol a chytunodd i wneud yr hyn a ganlyn:

Nododd y Pwyllgor Busnes hefyd y cafodd y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol atodol (Memorandwm Rhif 2) ar y Bil Dioddefwyr a Charcharorion ei osod ar 15 Ebrill 2024, ar ôl cael ei gyfeirio yn ei gyfarfod blaenorol at y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, gyda dyddiad cau o 29 Ebrill 2024 ar gyfer cyflwyno adroddiad.

 

</AI10>

<AI11>

4.2   Papur i'w nodi - Llythyr gan y Prif Weinidog ynghylch yr Aelodau sy'n gyfrifol am Filiau'r Llywodraeth

Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr.

 

</AI11>

<AI12>

5       Gwaith Gweithdrefnol

</AI12>

<AI13>

5.1   Y wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen waith weithdrefnol

Nododd y Pwyllgor Busnes ddiweddariad ar amserlennu arfaethedig ei waith gweithdrefnol.  

 

</AI13>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>